Newyddion Chwefror

Hafan > Newyddion > Newyddion Chwefror


Newyddion Chwefror

Roedd hi’n pythefnos prysur iawn yn yr ysgol cyn hanner tymor unwaith eto!

Cawsom ddiwrnod yn dathlu Dydd Miwsig Cymru a daeth y plant i’r ysgol mewn gwisgoedd coch, gwyn a gwyrdd. Yn y bore treuliodd y plant amser yn eu doabrthiadau unigol yn gwrando ac yn pleidleisio am eu hoff caneuon Cymraeg a cafodd Dosbarth Melynllyn gyfle i greu cerddoriaeth eu hunain ac i arbrofi efo offerynnau i gyd fynd efo eu hoff hwinagerdd.

Yn ffodus i Ddosbarth Dulyn daeth Johnny o Profiadau Cyntaf Gwasanaeth Cerdd Conwy i gynnal gweithdy Drymiau Djembe yn ystod y bore - felly roedd yn ddirwnod Miwsig Cymru a’r Byd ym Ml  3 a 4! Yn y prynhawn bu i’r Criw Cymraeg greu rhestr chwarae yn dilyn pleidlais y plant a chawsant gyfel i fod yn DJ’s yn ein disgo.

Plant gyda Johnny o Wasanaeth Cerdd Conwy yn dal drymiau

Yn ogystal a hyn mae’r plant yn Nosabrth Crafnant wedi bod yn dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieniaidd trwy ddysgu am draddodiadau Tsienia, cael blasu bwyd a gwrando a dawnsio i gerddoriaeth Tsieniaiadd. Mae’r plant wedi bod yn dysgu am ailgylchu hefyd drwy ddylunio a creu cychod allan o ddeunyddiau ac yn arbrofi efo pa badell ffrio fyddai’n well i deithio i’r ‘Eil o Man’. Fel rhan o’u hymchwiliadau, fe wnaethant hyd yn oed brofi pa badell ffrio fyddai orau ar gyfer teithio i Ynys Manaw, gan arsylwi’n ofalus pa un oedd yn arnofio orau ar ôl ei llenwi â dŵr.

Plant dosbarth Crafnant yn dathlu traddodiadau Tsieineaidd fel blasu bwydydd a dawnsio i gerddoriaeth draddodiadol

Mae plant Dosbarth Melynllyn wedi bod yn datblygu eu medrau digidol drwy fewngofnodi i’r Chromebooks er mwyn cyflwyno a chadw gwybodaeth am Jac  y do. Maent hefyd wedi bod yn dysgu mwy am y byd a’r amgylchedd yn dilyn taith gerdded o amgylch y pentref, lle buont yn trafod ac yn didoli nodweddion naturiol a’r rhai sydd wedi’u hadeiladu neu eu creu gan bobl.

Ymwelodd Elin o’r elusen Maint Cymru â Dosbarth Dulyn a Geirionydd i siarad am Goedwigoedd Glaw Trofannol. Dysgodd plant Dosbarth Dulyn am anifeiliaid sy’n colli eu cynefinoedd a chawsant gyfle i greu nythod ar gyfer Tim Tom yr orangwtan gan ddefnyddio deunyddiau naturiol. Wedyn, datblygon nhw eu gwybodaeth ymhellach drwy ymchwilio i anifeiliaid y goedwig law, llunio lluniau manwl a chyflwyno’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu.

Plant yn dysgu am anifeiliaid ledled y byd

Bu Dosbarth Geirionydd yn archwilio effaith torri coedwigoedd glaw ar draws y byd, gan gynnwys yr effaith ar lefelau ocsigen a chynhesu byd-eang. Buont hefyd yn ymchwilio i gynnyrch sy’n cael eu tyfu mewn coedwigoedd glaw ac yn trafod y manteision a’r anfanteision i’r byd ehangach.

Cyn hanner tymor, aeth y rhan fwyaf o’r dosbarth ar ymweliad preswyl tridiau i Lan Llyn, lle cawsant brofiadau gwych gyda’u ffrindiau. Da iawn i bawb am ymgymryd â phob gweithgaredd — hyd yn oed y rhai mwyaf heriol!

  • Plant gyda'u cês dillad yn barod i fynd i Glanllyn
  • Plant yn sefyll o flaen llyn yng Nglanllyn

I orffen mis Chwefror, byddwn yn cynnal ein Heisteddfod Ysgol. Bydd rhai disgyblion Blwyddyn 5 a 6 hefyd yn cael y cyfle cyffrous i gymryd rhan mewn sesiynau beicio mynydd MTB a drefnir gan Trach Trails ym Mharc Antur Eryri. Rydym yn gobeithio am dywydd braf!


Pob Eitem Newyddion