Cydweithio, Creu a Chyflawni

Croeso i Ysgol Dyffryn Yr Enfys

Ein hegwyddor canolog yw ceisio datblygu doniau pob disgybl i’r eithaf a chadarnhau hunan-barch a gwerth pob disgybl. Credwn yn gryf mewn dysgu trwy brofiadau a bod y plant wrth graidd hyn. Y ydym yn ysgol hapus, gynhwysol, gofalgar sydd eisiau datblygu’n plant i fod yn unigolion creadigol, hyderus a mentrus.

Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus. Gwnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau y byddant yn ein gadael yn unigolion hapus ac annibynnol sydd wedi mwynhau eu profiadau dysgu a’u profiad o ddysgu yma.

Mae llais  pob unigolyn yn holl bwysig yma ac yn rhan flaenllaw o ethos yr ysgol. Datblygwn y sgiliau sydd eu hangen ar bob dysgwr i allu gofalu amdanynt eu hunain, i gadw’n saff,  i wynebu heriau bywyd, ac i fwynhau dysgu.  Yr ydym yn ysgol sydd yn paratoi addysg i blant o ardal eang yn Nyffryn Conwy ac yr ydym yn sicrhau bod y plant yn cyfleodd i werthfawrogi a dathlu eu ardaloedd unigol.  Yr ydym yn cydweithio yn agos efo rhieni a gofalwyr er mwyn sicrhau bod y plant yn ffynnu ac yn cyrraedd eu llawn potensial yma yn Ysgol Dyffryn yr Enfys

Dilynwch ni @ysgoldyffrynyr1