Newyddion Hydref
Hafan > Newyddion > Newyddion Hydref
Mae wedi bod yn fis prysur dros ben ar draws yr ysgol gyda phob math o weithgareddau cyffrous yn digwydd ym mhob dosbarth. O ymweliadau pwysig i ddysgu am ddeinosoriaid a’r byd natur, dyma gipolwg ar yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud.
Mae pawb wedi bod yn brysur yn ymarfer ar gyfer ein Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Tal y Bont drwy ganu, cyflwyno a meddwl am ffyrdd o ddweud DIOLCH am ein byd.
Yn ogystal, mae ein Cyngor Ysgol wedi bod yn brysur yn dechrau trefnu gweithgareddau fel Dydd Gwener Gwyllt a Plant Mewn Angen a fydd yn digwydd ym mis Tachwedd, ac hefyd wedi bod yn holi’r plant am ba offer y byddent yn hoffi ei archebu ar gyfer amseroedd egwyl.
Dosbarth Dulyn
Ar ddyddiau gwlyb lle nad oes modd mynd allan i chwarae, mae hi’n gallu bod yn fore hir a diflas. Felly ar ôl amser chwarae tu fewn yn y dosbarth y mae’r plant wedi bod yn derbyn sesiynau ‘Born to Move’ i ddeffro pawb cyn mynd yn ôl i weithio!
Cawsant ymweliad gan PC Gareth i drafod pwysigrwydd cadw’n ddiogel, pa oedolion y gallwn ymddiried ynddynt a sut y dylem ymddwyn mewn sefyllfaoedd efo dieithriaid ar lein ac mewn bywyd go iawn.
Mae’r plant hefyd wedi bod yn cwblhaus esiynau garddio wythnosol ac yn dysgu am greaduriaiad sydd yn byw ar dir yr ysgol ac ar y safle Gwenud Traciau ac yn cynaeafu ac adnabod dail ar ddiwrnod braf o Hydref!
Dosbarth Eigiau
Maent wedi bod yn brsyur yn cyfansoddi a perfformio efo offerynnau i gyd fynd efo hwiangerdd “Dau Gi Bach”! ac yn datblygu eu sgiliau ohonom yn eu ardaloedd yn y dosbarth, gyda’r thema hydrefol.
Maent wrth eu boddau y neu ardal chwarae rol newydd sef “Ysgol Dyffryn yr Enfys”! Maent yn cymryd y gofrestr a canu eu caneuon cyfrach a ffarwelio!
Dosbarth Melynllyn
Mae’r plant wedi bod yn dysgu am bob math o deinosoriaid hyd yma – Gigantosawrws, Braciosawrws, Tyranosawrws, Becaosawrws, Saraosawrws a llawer mwy! Mae rhai ohonynt yn hoffi bwyta cig, eraill dail, ac mae rhai hyd yn oed yn mwynhau bwyta hufen iâ a physgod a sglodion!
Bu’r plant hefyd yn mwynhau ymchwilio i weld pa arwynebedd oedd â’r mwyaf/lleiaf o ffrithiant, gan ymarfer eu sgiliau cyfri fesul 2, 5 a 10 wrth wneud.
Mae Amgueddfa Deinosoriaid yn dod i Melynllyn, ac maent wedi bod yn paratoi drwy:
- Greu arwydd i’r Amgueddfa.
- Ysgrifennu ffeithiau am eu hunain er mwyn ymarfer eu sgiliau ysgrifennu ar gyfer creu ffeil o ffeithiau am ein hoff deinosoriaid.
- Ymarfer eu sgiliau adnabyddiaeth o rifau dau-ddigid a chyfri yn ôl ac ymlaen i’n helpu ni wrth werthu tocynnau i’r amgueddfa.
Dosbarth Crafnant
Cawsant ymwelydd sypreis yn cyrraedd y dosbarth! Deinosor direidus iawn sy’n gwneud pob math o ddrygioni pan nad oedd y plant o gwmpas! Mae’r plant wedi penderfynu ei alw’n Daniel - Deinosor Direidus ac mae yna blant hynod o greadigol yn Nosbarth Crafnant; wrth iddyn nhw liwio a tynnu lluniau o’r deinasor, fe ddechreuon nhw gyfansoddi a chanu cân roedden nhw wedi’I greu eu hunain amdano!
Dosbarth Geirionydd
Daeth PC Gareth hefyd i siarad hefo Dosbarth Geirionydd am bwysigrwydd cadw ein hunain yn ddiogel a beth i wneud os oes dieithryn neu oedolyn yn ein gwneud iddynt deimlo’n anghyfforddus. Cawsant negeseuon pwysig iawn i’w cofio er mwyn cadw’n ddiogel!
Diolch anferth i John o ‘’ Wolves of the Sky’’ am ddod draw i arddangos ei adar ysglyfaethus i ni hefyd! Roedd yr adar yn werth eu gweld! Yn anffodus, ni chawsom lawer o sioe hedfan gan Reggie yr Hebog, am iddo hedfan a glanio ar ben goeden ac aros yna am hanner awr – gwell lwc tro nesaf!






