Newyddion Mis Ebrill

Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Ebrill


Mae mis Ebrill wedi hedfan hyd yn hyn efo ‘r gwyliau Pasg yn y dechrau!

Cafodd pawb gyfle ar ddiwedd Tymor y Gwanwyn i gwblhau helfa, poasu neu cwis er mwyn ennill eu gwobr siocled. Bu i Dosbarth Eigiau chwilota am eu bwnis siocled tu allan ar y buarth. Llwyddodd pob un i ddarganfod eu siocled. Heriodd y staff i’r plant yn Nosbarth Crafnant  gwblhau heriau iaith cyn iddynt gael cyfle i hela am eu siocled. Yn Nosabrth Melynllyn roedd y plant yn brysur yn cracio’r côd er mwyn cael darganfod lle oedd eu siocled. Bu i pob lwyddo! Yn nosbarthiadau Dulyn a Geirionydd bu i’r plant gwblhau cwis am siocled gan mai dyna oedd eu thema ac wrth gwrs roedd yn rhaid iddynt lwyddo  a chael yr atebion cywir cyn derbyn neu gwobr.

  • Plant ysgol yn chwilio amdan wyau pasg
  • Plant gyda siocled Maltesers

I orffen y tymor cafwyd disgo a chyfle i ddangos eu doniau dawnsio.

  • Plany ysgol yn dawnsi yn y disgo

Edrychwn ymlaen at dymor prysur o’n blaenau. Mae themau diddorol wedi eu datblygu ac yr ydym wedi rhoi’r cyfle I’r plant gynllunio a rhannu eu syniadau. Bydd y plant yn Nosbarthiadau Geirionydd a Dulyn yn dysgu am y Gemau Olympaidd. Mae plant Dosbarth Melynllyn wedi bod yn holi am amrywiaeth o gwestiynau am Jac a’i Goeden Ffa ac yr hyn o bryd yn ymwchilio i adeiladau uchaf y byd! Gan ei fod yn Ddiwrnod Y Ddaear y maent hefyd wedi bod yn dysgu sut y gallwn ofalu am ein byd. Daeth un o’r plant ag arteffactau o’r Ail Ryfel Byd i mewn i ddangos  ac i drafod efo gweddill y dosbarth. Diddorol iawn!

  • Plentyn yn gwneud llun o'i llaw ar papur
  • Plentyn gyda arteffactua o'r Ail rhyfel byd

Yn nosbarth Crafnant maent yn astudio stori Y Tri Mochyn Bach ac yn cadw llygad allan am y Blaidd Cas! Bu i Blwyddyn Un lwyddo i dderbyn tystysgrif Kerbcraft ar ol dangos eu sgiliau gwrando a croesi’r ffordd yn ofalus. Da iawn blantos!

Mae Swpertaten wedi cyrraedd Dosbarth Eigiau ac mae y plant wedi bod yn cynllunio sut y byddent yn helpu dal Mr Pys drwg. Bydd llawer o weithgareddau cyffrous o’u blaenau.

  • Plant ysgol yn gafael mewn tystysgrif ar ol dysgu sut i croesi y ffordd yn ofalus

Byddwn yn cynnal Ffair haf yma ar Ddydd Sadwrn, Mehefin 22ain o 11yb-4yb ac estynwn croseo cynnes i bawb.


Pob Eitem Newyddion