Newyddion Mis Mai

Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Mai


Braf yw gweld yr haul allan a’r plant yn cael cyfleodd i ddysgu yn yr awyr agored.

Dosbarth Eigiau

Mae plant Dosbarth Eigiau wedi bod yn dysgu am ailgylchu bwyd a sut i greu compost eu hunain. Maent hefyd wedi bod yn dysgu am sut i gadw meddwl iâch ac aethant am dro i lawr i’r pentref i sylwi ar eu hamgylchedd, i fwynhau’r awyr iâch a chyfle i gyd chwarae yn y parc efo’u ffrindiau.

  • Plant yn dosbarth eigiau yn creu compost eu hunain

Dosbarth Melynllyn

Y mae Dosbarth Melynllyn wedi bod yn edrych ar ôl lindys yn ofalus iawn ac wedi bod yn dysgu am gylched bywyd Pili Pala. Roedd cyffro mawr yn y dosbarth pan welsant y Pili Pala yn deor o’r chrysalis cyn eu gadael allan i fwynhau’r blodau ar gae’r ysgol. Mae’r plant wedi bod yn brysur iawn yn dysgu stori Jac a’r Goeden Ffa ac mae rhai ohinynt wedi bod yn perfformio’r stori fel sioe pypedau i gweddill y dosbarth. Maent hefyd wedi bod yn efelychu gwaith Van Gogh ac wedi bod yn creu darluniau Blodau Haul hyfryd ar gyfer y dosbarth.

  • Plant yn dosbarth melynllyn yn perfformio mewn sioe pypedau

Dosbarth Dulyn

Y mae Dosbarth Dulyn wedi bod yn dysgu am Sioe Llanrwst fel rhan o’u thema y tymor yma. Maent wedi bod yn dysgu am gadwyni bwyd, cynefinoedd anifeiliad amrywiol ac wedi bod yn datblygu eu dychymyg drwy ysgrifennu straeon  am anifeiliaid eu hunain. Maent wedi bod yn edrych ar waith Steven Brown ac wedi bod yn ymdrechu i ail greu gwaith eu hunain.

  • Plant yn dosbarth geirionydd yn gwethu llyfrau yn y ffair lyfrau

Dosbarth Geirionydd

Gŵyl ydi thema Dosbarth Geirionydd y tymor yma ac maent wedi bod yn dysgu am Eid al Fitr ac wedi paratoi bwyd ar gyfer y dathlu. Aeth y dosbarth hefyd am dro ar hyd y cob fel rhan o Ŵyl Gerdded Trefriw a byddant yn cael ymweld âg Eisteddfod Llangollen ar ôl hanner tymor. Cawsant gyfle i ddatblygu eu sgiliau mathemtaeg pen hefyd drwy helpu i werthu llyfau yn ein Ffair Lyfrau ac wedyn yn cyfrifo’r cyfanswm. Llwyddom i werthu dros £690 sydd yn golygu bod yr ysgol yn cael £340 o lyfrau am ddim.

Diolch yn fawr i Christine Roberts am drefnu ein Noson Bingo unwaith eto ac i pob un o’r rhieni a ddaeth i’n helpu ar y noson. Llwyddom i godi £406 tuag at yr ysgol a’r Cylch ac ar ben hynny £200 drwy gynnig hamper siocled a gwin. Diolch i bawb am eu rhoddion – bydd yr arian yn mynd tuag at costau ymweliadau a gweithgareddau  i’r holl blant.


Pob Eitem Newyddion