Newyddion Mis Mawrth

Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Mawrth


Newyddion Mis Mawrth

Mae hi wed bod yn hanner tymor prysur dros ben!

Daeth amryw o’r plant a chfraniadau ar gyfer Banc Bwyd Gwledig Conwy a daeth Cyngorydd Nia Owen i’r ysgol i’w nôl er mwyn eu rhannu allan. Diolch i bawb am eu cyfraniadau.

  • Plant gyda bagiau o fwyd i rhoi i banc bwyd gwledig Conwy

Llongyfarchiadau hefyd i Lleucu am ddod yn 2il yn Nghystadleuaeth adrodd yn yr Eisteddfod Cylch ac i bartion canu Y Dyffryn a’r Enfys am ddod yn 3ydd ac yn 2il hefyd.

  • Llun o plentyn gyda tystysgrif am ddod yn ail yn yr Eisteddfod Cylch

Daeth y plant i’r ysgol mewn gwisgoedd llliwgar a diddorol  dros ben er mwyn dathlu Diwrnod y Llyfr a chawsant gyfle i drafod a chwblhau gweithgareddau oedd yn ymwneud â’u hoff lyfr.

  • Plant wedi gwysgo i fynu i fel cymeriadau o wahanol llyfrau i ddathlu Diwrnod Y Llyfr

Ar Mawrth y 1af daeth y plant i’r ysgol mewn gwigoedd traddodiadol ac mewn lliwiau Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a chafodd Dosbarth Geirionydd drafodaeth aeddfed iawn yn trafod a ddylai Cymru gael diwrnod Gwyl y Banc ychwanegol i ddathlu Mawrth y 1af fel mae Iwerddon yn cael i ddathlu diwrnod Sant Padraig.

  • Plant yn gwysgo dillad traddodiadol i dathlu Dydd Gwyl Dewi

Y mae Dosbarth Melynllyn wedi bod yn ymarfer eu sgiliau Dawns a Gymnasteg yn wythnosol efo Elen sydd yn rhan o dim Chwaraeon Gwledig Conwy. Yr ydym yn gobeithio y cawn gyfle I’w gweld yn perfformio cyn diwedd y tymor.

  • Plant yn dysgu sgilliau dawns a gymnasteg

I ddathlu Alban Eilir aeth pob dosbarth am dro I chwilio am arwyddion y Gwanwyn. Braf oedd gweld plant mawr Geirionydd mor ofalgar o’n plant ieuengaf yn nosabrth Eigiau.

  • Plant yn mynd am dro drwy'r coedwig

Daeth Sioe Mewn Cymeriad yma i rannu stori Dic penderyn a chafodd y plant yn CA2 gyfle i ddysgu am Hanes Cymru trwy gymeryd rhan yn y sioe.

Rhaid canmol plant Dosbarth Geirionydd hefyd am lwyddo I blannu 100 o goed yn Nant Ffrancon ar ôl cerdded millitire neu ddwy cyn cyrraedd y safle. Edrychwn ymlaen at weld y coed yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod.

  • Plant yn dosbarth geirionydd yn plannu coed yn Nant Ffrancon

Pob Eitem Newyddion