Newyddion Mis Mawrth

Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Mawrth


Dechreuodd y  mis efo dathliadau Dydd Gwyl dewi ac eisteddfod ysgol. Death pawb I’r ysgol y neu dillad coch, gwyn a gwyrdd a cawsom wledd o berfformiadau canu ac adrodd gan pob dosbarth. Yn ogystal death Sioe mewn Cymeriad Yr Esgob Willliam Morgan yma i berfformio i Bl 4- Bl6 a chyfle iddynt ddysgu dipyn o hanes Cymru. Yn y prynhawn death sioe arall mewn Cymeriad – Yr Arglwyddes Llanfoer i adrodd hanes y wisg Cymraeg i Bl D- Bl3. Diwrnod diddorol iawn i bawb.

Bu i rai o’r plant gystadlu yn Eisteddfod Melin y Coed mewn adrodd a thrwy gwblhau gwaith celf. Da iawn i pob un ohonynt ac hefyd i’r plant a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Cylch yr Urdd mewn canu ac adrodd. Mae yr ysgol yn falch iawn o pob un ohonnoch.

Cynhaliwyd Diwrnod y Llyfr ar Fawrth y 7fed a daeth pawb i’r ysgol wedi gwisgo fel cymeriad o’r hoff lyfr a chawsom wasanaeth bendigedig gan Dosbarth Crafnant a rhoddodd gyflwyniad arbennig i ni ar eu hoff stroi eleni – Y Tri Bwch Gafr.

Yn ogystal cynhaliwyd diwrnod codi arian ar gyfer Comic Relief. Coch oedd y thema – gwallt, dillad ac unrrhyw beth arall! Cafodd y plant gyfle i gwblhau amrywiaeth o weithgareddau hwyl ac yn Nosabrth Geirnionydd cawsant gystadlaeuaeth dweud jôcs!

Dosbarth Eigiau

Y maent wedi bod yn brysur yn parhau efo’u thema ‘Dwi’n mynd i hela arth’ ac ar un bore braf cawsant gyfle i ddilyn llwybr synhwyrol yn droednoeth! Roeddynt wrth eu boddau yn cerdded trwy pridd, gwellt,  eira (ffôm shafio) a dŵr! Cawsant gyfel hefyd i ymchwilio i wyau gan ein bod yn trafod y Pasg. Roddynt yn arsylwi wyau cyn iddynt ac arol iddynt gael eu coginio a chawsant gyfel i baratoi brechdannau ŵy ac wedyn picnic bach a cyfle i’w bwyta. Maent hefyd wedi bod yn dysgu sut i edrych ar ôl cywion bach yn eu ardal byd bach ac mae pawb wedi enwi eu cyw ac wedi derbyn tystysgrig am edrych ar eu hôl yn ofalus.

Dosbarth Crafnant

Y maent wedi bod yn dysgu ‘Mynd drot drot’ a daeth Anti Zoe atynt efo ei offer ceffylau i drafod edrych ar ol ceffyl. Roedd y plant wedi meddwl am llawer o gwestiyynau diddorol ac wedi dysgu llawr iawn ganddi. Y maent hefyd wedi bod yn cael te prynhawn ar ôl penderfynu beth hoffent sef ‘rhywbeth neis neis i dê!’. Cawsant gyfle i baratoi cacennau a brechdannau blasus iawn.

  • anti zoe yn ymweld a'r ysgol i ddangos offer ceffylau i'r plant

Dosbarth Melynllyn

Maent wedi dechrau paratoi yr ardal tu allan ar gyfer y gwanwyn ac wedi plannu blodau hyfryd tu allan i’r dosbarth. Cawsant hwythau gyfle i baratoi bisgedi blasus ar gyfer Sul y Mamau a chyfle i defnyddio eu sgiliau pwyso a mesur yn ofalus wrth baratoi y cynhwysion. Maent wedi bod yn gofyn cwestiynau am ddŵr wrth iiddynt astudio ‘’Dacw Mam yn dwad’’ ac yn cynllunio ymchwiliadau gwyddonol eu hunain efo dŵr. Cawsant gyfle hefyd i gymeryd rhan mewn gweithdy gan gwmni Sbectrwm ar berthnasau iach. Roedd y plant yn ymateb yn aeddfed iawn yn ystod y sesiynau.

Dosbarth Dulyn a Geirionydd

Daeth Jodie o elsuen Maint Cymru yn ôl i gynnal gweithdy ar siocled a Masnach Deg. Cafodd y plant gyfleiI baratoi siocled poeth fel y byddai’r Mayans yn ei yfed – dim byd fel y siocled poeth mae nhw wedi arfer efo! Roedd yn rhai iddynt baratoi y  ffa cocoa a doedd dim llefrith na siwgr ynddo! Hefyd dysgant am ffermwyr Masnach Deg a’r holl waith sydd angen er mwyn paratoi y siocled am ychydig iawn o arian. Cawsant brynhawn heriol hefyd pan ddaeth Dylan o gwmni CELS atynt i gynnal gweithdy a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu cymeriad a gwaith tim.

Mis a tymor byrlymus unwaith eto yma! I orffen y tymor bydd pawb yn cael cyfle i gwblhau cwis/helfa Pasg a disgo i ddathlu’r Pasg! Edrywchwn ymlaen at wyliau’r Pasg a Tymor yr Haf gan obeithio y bydd yn un braf!

  • hogyn ifanc yn edrych ar cocoa beans a siocled yn yr ysgol

Pob Eitem Newyddion