Newyddion Mis Mehefin
Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Mehefin
Yr ydym wedi cael tywydd braf ac amser braf a phrysur iawn yn ystod y mis efo nifer o ymwelwyr yn dod atom a nifer o ymweliadau oddi ar y safle hefyd.
Y mae Dosbarth Eigiau wei bod dysgu am archawryr fel Swper Taten a pobl sy’n helpu ac fel rhan o’r thema yr oeddynt yn edrych am adeiladau tal a byr yr yn ardal leol. Y maent hefyd wedi dechrau dysgu am y gofod ac yn cael cyfleodd i efelychu gwaith Van Gogh ‘Starry Night’, yn dysgu am gysgodion ac yn dysgu i gyfri’n ôl ......5,4,3,2,1, 0!
Y mae Dosbarth Crafnant wedi cael aelodau newydd yn y dsobarth – 5 lindysen llwglyd iawn sydd wedi dyblu mewn maint mewn wythnos! Edrychwn ymlaen at eu gweld yn tyfu’n fwy ac wedyn eu gweld yn troi’n Bili Palas prydferth. Y mae’r plant hefyd wedi bod yn gweithio yn eu siop blodau tu allan i’r dosbarth ac yn creu cynnyrch ac arwyddion i werthu yno.
Yn Nosabrth Melynllyn mae eu dysgu wedi bod yn canolbwyntio ar Sioe Llanrwst ac o ganlyniad i ‘roedd y plant eisiau dysgu am gawsus gwahanol a ar drwas y byd. Cawsant gyfle un prynhawn i flasu a barnu cawsus ac hefyd i greu bas data am y gwledydd ac am eu pwysau a fanit o frasder oedd yny y caws. Roedd rhai yn llawer mwy ogeluog na’r lleill hefyd! Y maent hwythau wedi bod yn yn parhau i dderbyn sesiynau rygbi ac wedi datblygu sgiliau cyd chwarae arbennig.

Daeth Jwls Williams o Oriel Mostyn draw at Ddosbarth Dulyn i gynnal gweithdy Celf a cafodd y plant gyfle i ddysgu ac arbrofi efo amrywaieth o dechnegau. Cafodd y plant gyfle hefyd i dderbyn gweithdy am y Migneint ac yn dilyn hynny caswant gyfle i greu lluniau trwy wnio tecstiliau i gynrychioli’r tir a’r môr.

Y mae Dosbarth Geirionydd wedi bod yn brysur iawn yn ystod y tymor. Cawsant gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy Cymorth Cyntaf ac roedd aelodau o’r Groes Goch yn eu canmol am agwedd ac ymdrech mor bositif. Aeth plant Bl6 i gymryd rhan yn yr Wul Griced yn Llanrwst a chafodd Bl 5/6 gyfle i ymweld a Phrifysgol Bangor i ddysgu am Addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Bu iddynt hefyd dderbyn sesiwn arbennig o werthfawr ar Nofio Diogel yn y môr wrth Porth Eirias ac i orffen y mis bu i rai gymryd rhan yng Ngŵyl Rygbi Dyffryn Conwy.
Rhaid canmol hefyd y plant a fynychodd Mabolgampau’r Dalgylch am eu ymdrech a’u agwedd yn y cystadlu ac yn y tywydd poeth! Edrychwn ymlaen at weddill y tymor a fydd yn cynnwys mabolgampau’r ysgol, ymweliadau pob dosbarth ac wrth gwrs Gwasanaeth Ffarwelio ac ymweliad ffarewlio Bl6!