Newyddion Mai

Hafan > Newyddion > Newyddion Mai


Cawsom ymweliad gan Sam a James o Hosbis Dewi Sant. Daethant i’r ysgol i gynnal gwasanaeth ac i gyflwyno gwybodaeth i’r plant ar eu gwaith a sut gallwn helpu drwy godi arian. Daeth Gwasanaeth Ambiwlans St Jonh yma hefyd i gynnal sesiynau Cymorth Cyntaf efo plant o Bl 3- Bl6. Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn iddynt ac ymatebodd y plant mewn ffordd aeddfed a chall wrth drio eu sgiliau allan ar y dymis a’u ffrindiau.

 

Dosbarth Eigiau

Fel rhan o’u thema Swpertatern mae y plant wedi bod yn dysgu am archarwyr ac adeiladau tal – ‘skyscrapers’. Aethant allan am dro i’r pentref i chwilio am rhai. Yn ffodus iddynt cawsant hyd i adeilad tal yr Hilton a’i gymharu efo y cabanau coed byr. I gloi eu thema am yr hanner tymor yma maent yn mynd i gael parti archarwyr a gwisgo i fyny am y bore. Bydd y staff yn falch bod Mr Pysen drwg wedi gadael Ysgol Dyffryn yr Enfys am y tro……….

 

Dosbarth Crafnant

Y mae’r plant wedi bod yn ail adrodd stori Y Tri Mochyn bach yn hyderus wrth chaware rôl a creu straeon eu hunain. Maent wedi bod yn brysur yn adeiladau tai eu hunain ac yn arbrofi efo defnyddiau. Aethant hwythau allan i’r pentref i chwilio am mathau o dai daethant o hyd i amrywiaeth mawr ond yn ffodus ni welsant y blaidd mawr cas ar eu taith.Y mae’r plant hefyd wedi bod yn efelychu ac astudio gwaith Kyffin Williams ac yn creu peintiadau hyfryd yn defnyddio yr un lliwiau a thechnegau.

 

Dosbarth Melynllyn

Y mae Dosbarth Melynllyn wedi bod yn dysgu am stori Jac a’r Goeden Ffa ac wedi bod yn holi llawer o gwestiynau – roeddynt yn awyddus i ddarganfod gwbodaeth am adeiladau talaf y byd ac hefyd yn awyddus i adeiladu a mesur rhai eu hunain. Y maent hefyd wedi bod yn cymhwyso eu sgiliau arian yn y Ganolfan Garddio sydd yn eu dosbarth.Maent wedi bod yn perfformio y stoi ar eu llwyfan sydd y tu allan i’r dosbarth ac wedi recordio eu perfformiad. Byddwn fel ysgol yn ei wylio yn fuan.

 

Dosbarth Dulyn a Geirionydd

Mae y plant wedi bod yn ymchwilio i’r Gemau Olympaidd ac wedi bod yn arbrofi efo esgidiau rhedeg – i ddarganfod pa un fyddai orau ar gyfer cystadlu. Maent wedi bod yn mesur frithiant yr esgidiau rhedeg amrywiol ac yn cydweithio’n dda mewn grwpiau. Yn ogystal mae plant Bl6 wedi bod yn helpu yn ei Ffair Lyfrau trwy gasglu’r arian a helou’r plant fengach i ddeiws llyfrau addas. Bu i’r plant hefyd dderbyn tystysgrifau am y gwaith celf a cwblhawyd ar Siarli a’r Ffatri Sioceld fel rhan o’r Wobr Celf.

Mae yr wythnosau nesaf yn mynd i fod yn rhai prysur iawn efo mabolgampau, Ffair Haf – 22/6/24 am 11yb-4yp, ymweliadau amrywiol, sesiynau nofio yn yr awyr agored ac amrywiaeth o weithdai Ysgol Goedwig a Rygbi yn cymeryd lle. Byddwn hefyd yn cynnal Sioe Dalentau yn yr ysgol ac edrychwn ymlaen at ddysgu a  gweld talenatu plant (a’r staff!)


Pob Eitem Newyddion