Newyddion Mai

Hafan > Newyddion > Newyddion Mai


Mae hi wedi bod yn andros o braf yma yn Nyffryn yr Enfys. Yr haul yn gwenud arnom bron pob dydd ac mae’r plant wedi cael cyfle i fwynhau cyd chwarae ar ein cae. Mae ein twnel helyg yn dechrau tyfu ac yr ydym yn edrych ymlaen at ei weld mewn ychydig o wythnosau.

Mae plant Dosbarth Eigiau wedi bod yn darllen stori Swper Taten ac mae Mr Pys Drwg wedi cyrraedd Ysgol Dyffryn yr Enfys unwaith eto. Mae o wedi bod yn gwneud drygioni yn ddyddiol – llanast yn y dosbarth, dinistrio lluniau’r plant a clymu Miss Roberts i’r ffens! Daeth PC Dylan draw i weld Swyddfa Heddlu’r plant ac hefyd i roi ychydig o syniadau i’r plant ar sut i’w ddal. Byddwn yn falch unwaith mae hynny’n digwydd ac mae’r ysgol yn dychwelyd i’r arfer!!!

  • Miss Roberts wedi cael ei clymu i'r ffens ac y plant yn chwilio am Mr Pys Drwg

Mae Dosbarth Crafnant wedi bod yn darllen llyfr Y Lindysen Llwglyd ac yn ymchwilio i greaduriaid bach. Maent yn dysgu ffeithiau amdananyt ac yn cael cyfloedd i chwilio amdanant tu allan. Byddent hefyd yn cael cyfle i ymwchilio i gynefinoedd a phlanhigion sydd o gwmpas yr ysgol ac wedyn gorffen eu dysgu efo diwrnod allan ym Mili Palas.

  • Plant yn dysgu amdan anifeiliad bach fel buwch goch gota

Sioe Llanrwst yw thema Dosbarth Melynllyn ac maent wrthi yn cynllunio cynnal sioe eu hunain yn yr ysgol. Maent wedi bod yn brysur yn plannu hadau Blodau haul ar gyfer eu cystadlaeuath Blodau Haul ac yn bwriadau cynnal sioe anifeiliad anwes. Y maent wedi bod yn brysur yn datblygu eu sgiliau llythrennedd , rhifedd a digidol yn cymharu anifeiliad anwes ac yn bwydo’r wybodaeth i greu graffiau.

  • Plentyn yn mwynhau plannu blodau haul yn y dosbarth

Mae Swyddog Rygbi Newydd y dalgylch – Anna, wedi bod yn cynnal sesiynau rygbi efo Dosbarth Dulyn a braf yw clywed bod y plant yn ymdrechu’n galed i ddatblygu sgiliau newydd yn cydweithio’n dda. Bu i plant Dosbarth Dulyn a Geirionydd gerdded lawr i’r Ardd Gofio ar ddiwrnod VE i glywed y seiren rhyfel ac i godi’r banner a chofio am y rhai ac aeth i’r rhyfel.

  • Plant yn mwynhau chwarae rygbi yn y haul

Gŵyl yw eu thma ac maent wedi bod yn brysur iawn yn cynllunio a datblygu eu syniadau er mwy arwain y dysgu. Y mae rhai o’r plant wedi bod yn ymchwilio i ddawnsfeydd amrywiol sydd yn cael eu perfformio ar draws y byd ac yn cynllunio a chreu dawns eu hunain. Byddwn yn edrych ymlaen at eu gweld yn perfformio yn yr wythnosai sydd i ddod.

Daeth PC Dylan i siarad efo Bl 5/6 a bydd yn ymweld yn wytnnosol yn ystod yr wythnosau nesaf i arwain Prosiect heddlu Bach efo disgyblion Blwyddyn 5. Byddent yn cysylltu efo aeloda’r gymuned i geisio gwella elfennau o’r gymuned iddynt eu hunain ac eraill. Edrychwn ymlaen at weld sut mae poesiect yn datblygu dros yr hanner tymor nesaf.

  • Plant Blwyddyn 5 a 6 gyda PC Dylan

Pob Eitem Newyddion