Newyddion Mis Chwefror

Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Chwefror


Mis byr ond prsyur iawn yma yn Ysgol Dyffryn yr Enfys! Rhaid llongyfarch Cari, Mali ac Efa am eu llwyddiant yn Eisteddfod Melin y Coed ac ibawb hefyd sydd wedi cystadlu yn y gweithgareddau ysgrifennu a Celf a Chrefft. Bydd rhai plant hefyd yn cystadlu yn Eisteddfod Cylch yr Urdd ar Fawrth yr 2il felly dymunwn pob lwc iddynt.

Cafodd pawb gyfle i ddathlu Dydd Miwsig Cymru trwy wrando ar amrywiaeth o gerddoriaeth, dawnsio efo eu ffrindiau ac hefyd bu i rai gystadlu mewn cwis. Mae y plant wedi dewis eu hoff ganeuon ac erbyn hyn mae’r rhestr chwarae yn chwarae yn ddyddiol yn y cyntedd.

Byddwn hefyd yn cynnal Eisteddfod Ysgol ar Fawrth y 1af a bydd yn gyfle i pob dosbarth berfformio ac i rai ymarfer at yr Eisteddfod.

Dosbarth Geirionydd

Bu i‘r dosbarth ymwled â Chanolfan Nant Bwlch yr Haearn am ddwy noson ar dechrau’r mis. Cawsant ddiwrnod cyntaf gwerth chweil a tywydd da on erbyn yr ail ddiwrnod yr oedd yn tywallt y glaw! Druan ohonynt! Er hynny yr oeddynt i gyd yn trio eu gorau glas igwblhau gweithgareddau a’r heriau. Bu i’r plant gerdded ceunant, mynd ar y weiren zip, glanhau y bws mini a paratoi eu cinio, cerdded dros 3 milltir yn y glaw trwm, dringo wal, cyfeiriannu ac hefyd cawsant gyfle i ymlacio drwy chwarae amrywiaeth o gemau a gwylio ffilm. Bu i’r plant yn Nosbarth Geirionydd a Melynllyn hefyd dderbyn gweithdy Spectrwm sydd yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru ac mae’n canolbwyntio ar Bertnasau Iâch.

  • Plant yn dosbarth geirionydd yn y ceunant

Dosbarth Dulyn

Derbyniodd y plant hyfforddiant sgwteri ac yr oeddynt ynngwrando ac yn dilyn cyfarwyddiadau yn ofalus. Erbyn hyn dylent fod yn ymwybodol o sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd. Yr oedd yn Wythnos Iechyd Meddwl  Plant a penderfynodd y plant byddai mynd am dro yn awyr iâch efo’u ffrindiau yn dda iawn i’w lles felly dyna beth wnaethant ar un bore braf. Y mae’r plant hefyd wedi dechrau derbyn hyfforddiant rygbi gan Swyddog Rygbi Dyffryn Conwy a rhaid eu canmol am weithio’n galed a chydweithio yn y sesiynau.

Dosbarth Melynllyn

Erbyn hyn y mae’r plant wrthi yn dysgu ‘Dacw mam yn dwad’ ac wedi bod yn arwain y dysgu trwy ofyn amrywiaeth o gwestiynau am ddŵr. Y maent wedi bod yn ymchwilio i enwau afonydd lleol, wedi bod yn gwenud peintiadau efo dyfrliw ac wedi bod hefyd yn dysgu am sut oedd pobl yn cludo dwr o’r ffynnon ers talwm. Y maent yn brysur yn cynllunio ymchwiliad ar sut i wneud hyn eu hunain. Cawsom wasanaeth ardderchog gan y dosbarth ar adar unigryw a bod yn unigryw. Ar ddiwedd y mis y maent wedi bod yn plannu Cenin pedrs tu allan i’r dosbarth gan obeithio am ychydig o liw a tywydd braf dros yr wythnosau nesaf.

  • Plentyn yn dosbarth melynllyn yn gwneud peintiau hefo dyfrliw

Dosbarth Crafnant

Mae’r plant yn y dosbarth wedi bod yn gorffen eu dysgu sydd wedi elio ar thema ‘’Fucoh chi ’rioed ym morio’’ac wedi bod yn edrych ar gregin amrywiol ac yn datblygu eu sgiliau arlunio. Yn ogystal maent wedi bod yn edrych ar waith Henri-Edmond Cross ac yn ceisio ail greu peintiadau eu hunain drwy ddefnyddio eu bysedd. Roedd yna gyffro mawr yn y dosbarth un bore oherwydd bod neges mewn potel wedi cyrraedd a sbardunodd hyn i’r plant ysgrifennu atebion eu hunain.

  • Plant yn dosbarth crafnant yn dysgu amdan gregin amrywiol

Dosbarth Eigiau

Mae gennym plant bach clyfar iawn yn ein dosbarth Meithrin sydd wedi dysgu llawer iawn o seiniau’r wyddor yn barod ac yn gallu cyfri ac adanbod rhifau i 5. Da iawn blantos! Y maent hefyd yn canu y gofrestr bob bore yn Gymraeg ac yn gallu ei arwyddo hefyd. Maent yn brysur yn dysgu am Dewi Sant cyn ein dathliadau ar fawrth y 1af ac wrthi yn peintio lluniau cenin pedr ac yn dysgu am faner Cymru.


Pob Eitem Newyddion