Newyddion Mis Gorffennaf
Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Gorffennaf
A dyna ni blwyddyn ysgol arall drosodd ac unwaith eto mae hi wedi bod yn gyfnod prysur a chyffrous yma yn Nyffryn yr Enfys.
Ymweliadau
Cafodd pob dosbarth gyfle i fynd ar ymweliad yn gysylltiedig efo eu thema. Aeth plant y Cyfnod Sylfaen i gyd i Pili Pals. Cawsant ddiwrnod bedigedig yn dysgu am yr anifeiliad a chyfle i chwarae. Aeth Dosbarth Geirionydd I Eisteddfod Llangollen ar Ddiwrnod y Plant fel rhan o’u thema Gŵyl. Cawsant gyfle i wylio ychydig o’r Eisteffdod yn y pafiliwn ac wedyn crwydro’r maes i wario eu arian. I Ffarm Parc Foel aeth Dosbarth Dulyn a chawsant hwythau gyfle i ddysgu am anifeilaid, i fynd ar reid tractor ac amser i chwarae.
Gwyl Garrog
Bydd Gŵyl Garrog yn cymeryd lle ar Fedi 10fed ym Mharc Antur Eryri, Dolgarrog ac fel rhan o’r paratoadau cynhaliwyd gweithdai yma yn yr ysgol. Cafodd plant Dosbarth Geirionydd gyfle i gyfansoddi rap Y Garrog a phob dosbarth arall gyfle i greu mygydau er mwyn cymeryd rhan mewn gorymdaith a fydd yn hysbyesbu’r ŵyl. Cawsant i gyd gyfle hefyd wedi cael i argraffu eu dwylo efo paent ar Y Garrog ei hun a fydd yn bresennol yn yr ŵyl.
Mabolgampau
Yr oeddym yn ffodus o gael bore sych er mwyn cynnal ein Mabolgamapau a braf oedd gweld teuluoedd yn dod i wylio’r plant. Roedd yn bleser hefyd i wylio’r plant yn mwynhau ac yn cyd- dynnu mor dda yn y cystadlaethau yr oeddynt wedi eu creu. Cafodd rhai o blant Dosbarth Geirionydd socsan yn ystod eu ras dŵr ac wedyn wedi I Mr Jones eu gwlychu efo dŵr ar y diwedd!
Bl 6
Yr ydym yn dymuno’n dda i holl blant Bl6 ar eu rhan nesaf o’u taith yn Nyffryn Conwy ym mis Medi.Cawsant wythnos olaf llawn yma yn yr ysgol a oedd cynnwys gwasanaeth yr oeddynt wedi eu gynllunio eu hunain, brwydr dwr (arall!), ymweliad a bwyd yn Zip World yn Metws y Coed a parti i orffen yr wythnos!
Mae hi wedi bod yn flwyddyn cyffrous a prysur dros ben yma ac mae pawb yn edrych ymlaen at y gwyliau. Diolch i bawb am eu cefnogaeth eleni ac edrychwn ymlaen at flwyddyn llwyddiannus arall ym mis Medi!