Newyddion Mis Hydref

Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Hydref


Newyddion mis Hydref

Dosbarth Eigiau

Fel rhan o’u thema Dinosoriaid y mae’r plant wedi bod yn chwarae y neu cornel campio. Cawsant gyfle hefyd i ymarfer campio yn yr ardal tu allan a dysgu am tân a diogelwch. Aethant allan yr y cae i grasu eu Malws Melys! Blasus iawn wir ac yn anodd i’w bwyta yn daclus! Y maent hefyd wedi bod yn dysgu am yr Hydref ac aethant am dro o gwmpas y pentref yn chwilio am arwyddion ar ôl i Yncl Phil eu dysgu sut i groesi’r ffordd yn ofalus.

Dosbarth Crafnant

Y mae Dosbarth Crafnant wedi bod yn gwrando ar stori’r Hugan Fach Goch ac wedi bod yn ymarfer symud fel bleiddiaid i gerddoriaeth. Y maent hefyd wedi bod yn dysgu am rhannau o’r corff trwy ganu a labelu eu gilydd. Mae y plant wedi bod yn ymchwilio hefyd i maint traed ac wedi bod yn cymharu , trefnu a mesur. Cyfle gwych hefyd i ddysgu am amser trwy chwarae gêm ‘Beth yw’r amser Mr Blaidd?’

Dosbarth Melynllyn

Aeth y dosbarth am dro i Glwb yr Henoed gan ei fod yn Ddiwrnod Rhyngwladol yr Henoed ar Hydref 1 af. Roeddynt wedi paratoi Malipops ar eu cyfer fel anrheg. Y mae hwythau wedi bod am dro yn Nolgarrog ac yn Nhal y Bont yn edrych ar y mathau o dai sydd yn yr ardal leol, ac yn casglu ac yn dehongli data. Y maent hefyd wedi bod yn cynllunio ardaloedd dysgu yn y dosbarth ac yn helpu Miss Griffiths efo creu wal ddysgu deniadol.

Dosbarthiadau Dulyn a Geirionydd

Aeth y ddau ddosbarth am dro i ymweld â Gwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd  a chawsant ymweliad diddorol iawn yn dysgu am taith dŵr a sut mae o yn cael eu hidlo. Ymdrechodd rhai o’r plant i greu hidlydd eu hunai ar ôl dychwelyd ond nid oeddynt yn mynd i drio yfed y dŵr y tro hwn! Brâf oedd gweld plant Bl 5 a Bl6 cymryd eu tro i  baratoi gwasanaeth boreol ar ein cyfer ac yr ydym yn bwriadu creu murlun efo geiriau Bl6 ar ôl eu cyflwyniad ar sut i gael diwrnod da. Rhywbeth y dylem ei gofio yn fwy aml. Tro Dosbarth Geirionydd a Dosbarth Dulyn oedd hi i fynd am dro ond y tro  yma i edrych ar enwau cartrefi lleol – i ddysgu am eu hanes, eu ystyr ac hefyd er mwyn creu ddarn o farddoniaeth.

Ysgol Gyfan

Cynhaliwyd Noson Bingo a llwyddom i godi £496 tuag at yr ysgol a’r Cylch Meithrin. Diolch yn fawr i Christine Roberts am drefnu, i’r rhieni a’r ffrindiau a cefnogodd ni ar y noson ac i bawb a fynychodd. Byddwn yn cynnal Ffair Nadolig yn yr ysgol rhwng 6pm-8pm ar Dachwedd 23ain a  bydd croeso mawr i bawb yma. Ar Hydref 20fed daeth pawb i’r ysgol mewn coch i Ddangos y Cerdyn Coch i hiliaeth. Byddwn hefyd yn cynnal Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Tal y Bont ar Hydref 25ain am 10 yb ac yn  dathlu diwedd hanner tymor efo Dydd Gwener Gwyllt!

  • Ysgol Cyfan yn gwysgo coch i ddangos y cerdyn coch i hiliaeth

Pob Eitem Newyddion