Newyddion Mis Medi

Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Medi


Braf oedd croesawu y plant yn ôl ar ôl gwyliau’r haf ac yr ydym wedi cael mis prysur iawn hyd yma!

Dosbarth Eigiau

Y mae ein plant meithrin newydd wedi ymgartrefu yn dda yn ystod eu wythnosau cyntaf yn yr ysgol. Maent wedi bod yn derbyn sesiynau ar y beics cydwbwyso ac wedi llwyddo i fynd o gwmpas ein ffordd fach sawl gwaith yn barod. Maent wedi bod yn perfformio cân Lliwiau’r Enfys ac wedi dysgu eu lliwiau yn Gymraeg yn barod. Fel rhan o’u thema maent wedi bod yn gwrando ar stori Oawin a’r deinasoriaid yn mynd i’r ysgol  a pan gyrhaeddon nhw y dosbarth un bore roedd y deinasoriaid wedi cyrraedd hefyd a’u olion traed ar hyd llawr y dosbarth! Gobeithio wir na fyddent yn creu trafferth I’r staff a mwy o lanast yn yr wythnosau nesaf – y deinasoriaid wrth gwrs ac nid y plant!

  • Plant meithrin yn cael sesiynau beics cydwbwyso

Dosbarth Crafnant

Y mae Dosbarth Crafnant wedi bod yn brysur yn ymchwilio i waith Picasso ac wedi ceisio defnyddio’r un technegau y neu darluniau eu hunain. Maent wedi creu hunan bortreadau lliwgar iawn. Da iawn blantos. Fel rhan o’r thema maent wedi bod yn trafod eu teuluoedd ac wedi bod yn creu darluniau a modelau clai o’u teulu. Yr ydym wedi croesawu plant newydd i’r dosbarth hefyd ac maent wedi gwenud ffrindiau Newydd yn barod.

  • Plant yn dosbarth crafnant yn dysgu amdan waith Picasso

Dosbarth Melynllyn

Daeth rhai o’r plant yn ol ar ôl y gwyliau wedi cwblhau her Miss Griffiths – sef i dyfu blodyn haul. Cawsom amryw o luniau o’r blodau wedi tyfu’n dal iawn ond Lucie a fud yn fuddugol efo’r blodyn talaf. Da iawn blantos am edrych ar ole ich blodau dros yr Haf. Y maent hwythau wedi bod yn creu huan bortreadau ychydig yn wahanol ond wedi herio eu hunain ac arsylwi a creu darluniau manwl iawn. Y maent hefyd wedi bod yn gofyn cwestiynau am sut maey corff yn gweithio er mwyn arwain y dysgu yn ystod y tymor.

Dosbarthiadau Dulyn a Geirionydd

Mae’r plant wedi bod yn dysgu am yr ardal leol ac ymwchilio i’r hyn sydd yn arbennig am yr ardal. Byddent yn ymweld a Gwaith Trin Bryn Cowlyd hefyd I ddygu am sut mae y dwr yn cael ei brosesu er mwyn fod yn barod i ni ei yfed! Y maent hwythau wedi bod yn dysgu am y corff a’r organau ac yn labelu eu partneriaid dysgu! Aeth Bl6 i Ysgol Dyffryn Conwy am ddiwrnod blasu a cawsant ddiwrnod yn llawn o weithgareddau chwaraeon. Tra roeddynt yn Ysgol Dyfryn Conwy cafodd Bl5 gyfle i gasglu afalau a defnddio eu dgiliau matehmateg I’w didoli cyn gofyn yn garedig i Anti Helen ein cogyddes i’w coginio. Y mae Bl 5 hefyd wedi bod yn derbyn sesiynau hyfforddi beicio ac yr ydym yn gobeithio y byddent i gyd wedi llwyddo ac yn hyderus i fynd ar y ffordd cyn diwedd y mis.

Cawsom ymweliad gan Geth Tomos o Cerddamdani am ddwirniod cyfan o weithgareddau hwyl cerdd ac roedd y plant wrth eu boddau yn drymio a dawnsio. Mae Joe Lambe wedi bod yn cynnal sesiynau criced efo dosbarthiadu Crafnant a Melynllyn hefyd ac yn datblygu eu sgilioau bowlio a dal.

Byddwn yn cynnal noson Bingo yma ar Nos Frecher, Hydref 18fed am6:30pm ac mae croeso mawr i deuluoedd, plant ac i aelodau’r gymuned i ymuno efo ni.


Pob Eitem Newyddion