Newyddion Mis Medi 2025
Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Medi 2025
Croeso nôl a dechrau’r tymor!
Mae hi wedi bod yn brysur iawn yma ar ddechrau’r tymor. Roedd yn bleser croesawu’r plant yn ôl ar ôl haf mor braf, ac hefyd i dderbyn ein plant Meithrin newydd. Mae pawb wedi bod yn brysur yn eu dosbarthiadau newydd ac yn ymgartrefu’n dda.
Dosbarth Crafnant
Mae’r plant Meithrin a Derbyn wedi ymgartrefu’n dda iawn yn eu dosbarth newydd. Thema’r dosbarth yw “Bath Mawr Coch”. Mae’r plant wedi bod yn dysgu sut i ofalu am eu hunain ac yn dysgu sut i fathio babi yn ofalus. Mae’r plant Derbyn wedi bod yn meddwl am enwau ar gyfer ein pysgod newydd – Oli a Doli – ac rydym yn gobeithio y byddant hwythau hefyd yn ymgartrefu’n dda yn Ysgol Dyffryn yr Enfys.
Dosbarth Melynllyn
Mae Dosbarth Melynllyn wedi bod yn brysur yn cynllunio eu thema newydd “Amdanaf Fi” ac wedi dechrau drwy greu hunan-bortraedau. Hefyd, maent yn ymarfer eu sgiliau criced yn wythnosol gyda Joe o “Chance to Shine”.
Dosbarth Dulyn
Mae plant Dosbarth Dulyn wedi bod yn rhannu eu syniadau ar gyfer eu thema “Fi fy hun a’r ardal leol”. Maent wedi dechrau dysgu am bentrefi a threfi cyfagos, ac am ein esgyrn a’n dannedd. Maent hefyd yn datblygu eu sgiliau criced gyda Joe, ac yn mwynhau’r sesiynau. Yn ogystal, daeth cwmni Opra Cymru i gynnal gweithdy ar actio a pherfformio, ac roedd y plant yn ymateb yn dda iawn i’r gweithgareddau.
Dosbarth Geirionydd
Mae hi wedi bod yn brysur iawn yn Dosbarth Geirionydd. Daeth Pennaeth Blwyddyn 7 o Ysgol y Creuddyn i siarad gyda’r dosbarth, a’r Pennaeth o Ysgol Dyffryn Conwy yn ymweld yn barod ar gyfer Mis Medi 2026. Cafodd plant Blwyddyn 6 gyfle i dreulio diwrnod yn Ysgol Dyffryn Conwy gyda plant o ysgolion eraill yn y cylch. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Blwyddyn 5 yn brysur ar gae’r ysgol yn hel afalau – a ddaeth llawer mwy eleni nag mewn blynyddoedd blaenorol. Hefyd, mae’r plant wedi bod yn derbyn sesiynau criced gyda Joe ac yn datblygu sgiliau arbennig.
Cyngor Ysgol a Chriw Cymraeg
Mae’r plant wedi ethol cynrychiolwyr o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6 i fod ar ein Cyngor Ysgol, sef Bobby, Layken, Mae, Phoenix, Ellie, Harri, Maelon, Megan, Emelia ac Isaac. Hefyd, rydym wedi sefydlu ein Crŵ Cymraeg gyda Ela, Leucu, Ioan a Nansi. Edrychwn ymlaen at ddatblygu syniadau’r plant dros y flwyddyn.
Llongyfarchiadau!
Llongyfarchiadau mawr i Aneira, Rory ac Ela am eu llwyddiant yn Sioe Cynnyrch Trefriw. Da iawn chi!
Diolch i bawb am eu gwaith caled a’u cyfranogiad. Edrychwn ymlaen at flwyddyn gyffrous a llawn dysgu a hwyl!