Newyddion Mis Mehefin

Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Mehefin


Mae mis Mehefin wedi bod yn brysur iawn yma efo amrywiaeth o weithgareddau yn digwydd ar draws yr ysgol.

Dosbarth Eigiau

Y mae y plant wedi bod yn edrych ar ôl lindys yn ofalus ac wedi bod yn eu gwylio yn ofalus yn tyfu yn ddyddiol. Roeddynt wedi dotio yn gweld y lindys yn newid i crisalis ac wedyn yn deor fel pili pala. Aethant allan i’r cae i wylio nhw yn hedfan . Fel  rhan o’u sesiynau Iechyd a Lles cawsant Ddiwrnod Lles a chyfle i ymlacio y neu dillad nos, eistedd yn y den yn trafod eu hoff lyfrau a mwynhau siocled poeth.

Dosbarth Melynllyn

Y mae’r plant wedi bod yn dysgu am sut mae gwenynod yn cario pail o un blodyn i’r llall drwy cwblhau tasgau ymarefrol efo Cheesy Puffs! Roeddynt yn gweld sut oedd eu dwylo yn cario briwsion melyn y cheesy puffs o un blodyn papur i un arall sydd yn debyg i sut mae gwenynod yn ei gario f oar eu coesau! Plant da yn  herio eu hunain i beidio llyfu bysedd ar ôl bwyta! Y maent hefyd wedi bod yn brysur yn ymarfer eu sgiliau llafar Cymraeg drwy chwarae rol y cawr yn yr ardal byd bach!

Dosbarth Dulyn

Bu y plant yn ymweld â Phentref Peryglon lle cawsant ddiernod yn dysgu am beryglon sydd yn ein cymdeithas. Aethant hefyd am dro ar brynhawn braf yn chwilio amd gynefinoedd anifeiliaid amrywiol o gwmpas y pentref a chyfle i ddysgu am yr amgylchedd. Daeth catrin o’r Bwrdd Dwr atynt i gyflwyno gweithdy ar bwysigrwydd dwr yn ein bywydau ac i sicrhau nad ydym yn ei wastraffu.

  • Plant yn dosbarth dulyn wedi ymweld pentref peryglon

Dosbarth Geirionydd

Cafodd Bl 6 cyfle gwych i ddysgu am beryglon nofio yn yr awyr agored trwy fod yr ysgol cyntaf I fod yn rhan o Gynllun Nofio  Diogel ar y traeth ym Mhorth Eirias. Dysgodd y plant wersi pwysig iawn am sut i gadw yn ddiogel. Y maent hefyd wedi bod yn brysur yn cynlllunio a gwnio pypedau ar gyfer plant Dosbarth Eigaiu ac wedi herio eu hunain i ddysgu sgiliau pwytho newydd. Roeddynt yn awyddus i ysgrifennu sgriptiau ar gyfer cyflwyno Sioe Bypedau i’r plant. Roedd  plant Dosbarth Eigiau wrth eu boddau yn cael gwylio’r sioe yn ein Caban Carneddau ac roedd clywed chwerthin y plant yn codi calonnau pawb.

Diwrnod Gŵyl Haf

Penderfynom gynnal diwrnod i ddathlu’r Haf  a chynnal Diwrnod Gŵyl Haf. Daeth Alun Tan Lan yma i berfformio yn ein gwasanaeth cyn cynnal sesiynau Ukele efo’r plant. Daeth Marc o MW Sport yma i hefyd gynnal amrywiaeth o gemau a bu i pob dosbarth greu cynnyrch er mwyn codi prês ar gyfer eu dosbarth. Addurnodd Dosbarth Eigiau gacennau i’w gwerthu a  creodd Dosbarth Melynllyn breichledau. Trefnodd Dosbarth Dulyn stondin addurno daliwr goraid ac roedd Dosbarth Geirionydd wedi cynllunio amywiaeth o heriau a gweithgareddau hwyl. Yn dilyn y diwrnod y mae y plant wedi cael cyfle i gyfrifo yr arian â’r elw ac yn mynd i ddewis rhywbeth ar gyfer eu dosbarth.


Pob Eitem Newyddion