Newyddion Mis Tachwedd

Hafan > Newyddion > Newyddion Mis Tachwedd


Newyddion Mis Tachwedd

Mis prysur iawn unwaith eto yn Nyffryn yr Enfys! Cawsom gyfle i orffen yr hanner tymor cyntaf efo Gwasanaeth Diolchgarwch hyfryd yng Nghapel Tal y Bont a Diwrnod Dydd Gwner Gwyllt ar y diwrnod olaf. Daeth y plant i gyd i’r ysgol mewn gwisogoedd gwyllt a chyfle i wario’r bore yn cwblhau heriau gwyllt gan orffen efo disgo a chystadlaethau yn y prynhawn.

Yr ydym hefyd wedi cynnal diwrnod codi arian ar gyfer Plant mewn Angen a cafodd y plant gyfle i fynychu’r ysgol yn eu dillad nos a chael cyfle i wylio ffilm a chael siocled poeth a malws melys. Diwrnod braf o ymlacio ond hefyd I feddwl am blant sydd ddim mor ffodus  a ni. Diolch i bawb a chyfrannodd at yr elusen.

Cynhaliwyd ein ffair Nadolig yma ar Dachwedd 23ain a braf oedd gweld yr holl brysurdeb yn yr ysgol. Diolch yn fawr iawn i Christine Roberts am drefnu ac i bawb a chyfrannodd , a chefnogodd a helpodd ni yn ystod y ffair. Llwyddom i godi £821 tuag at yr ysgol a’r Cylch. Diolch yn fawr iawn i bawb.

Daeth PC Dylan yma I ymweld a dosbarthiadau melynllyn, Dulyn a Geirionydd I’n atgoffa o’r bobl yn ein cymuned  sydd yma I’nn helpu

Dosbarth Eigiau

Y mae y plant wedi bod yn brysur yn dysgu am y Brigddyn ac wrth eu boddau efo’r stori. Y maent wedi bod yn cwblhau amrywiaeth o dasgau diddorol gan gynnwys ioga Mr Brigddyn, dysgu am rhannau’r corff a creu cartref i Mr Brigddyn drwy ddefnyddio eu gwybodaeth am siapiau 2D. Braf oedd gweld plant Dosbarth Dulyn hefyd y neu harwain ar eu taith i’r Gardd Gofio ac yn eu helpu i greu bisgedi Pabi.

  • Plant yn dosbarth dulyn yn gwneud bisgedi

Dosbarth Dulyn

Cawsom wasanaeth arbennig o dda gan Dosbarth Dulyn yn adrodd hanes Roas Parkes i gweddill yr ysgol. Roedd ganddynt leisiau clir a chyflwyniad diddorol iawn yn llawn o wybodaeth am ei hanes. Esiampl arbennig i gweddill yr ysgol.

  • Plant yn dosbarth dulyn yn gwneud cyflwyniad amdan hanes Rosa Parkes

Dosbarth Geirionydd

Cafodd Dosbarth Geirionydd a Dulyn gyfle i ddysgu am hanes yr ardal leol pan ddaeth staff o’r archifdy yma i rannu gwybodaeth ac arteffactau a hanesion pobl o’r ardal. Diddorol iawn oedd clywed bod yn asiname yn Nolgarrog ar un tro. Cafodd y plant hefyd gyfle i gymeryd rhan mewn gweithdy Cymorth Cyntaf a dysgu sgiliau pwysig iawn am sut i ofalu a helpu eraill os ydynt yn brifo neu angen cymorth cyntaf. Y mae’r plant hefyd wedi bod yn derbyn sesiynau rygbi gan Swyddog Datblygu Rygbi Dyffryn Conwy ac wedi cael sesiynau defnyddiol  ac wedi dysgu sgiliau newydd.

  • Parti Calen Gaeaf Dydd Gwener 27ain Hydref 2023
  • Plant Mewn Angen - Dydd Gwener 17fed Tachwedd 2023

Pob Eitem Newyddion